Cofnodion cryno - Bwrdd Taliadau


Lleoliad:

 Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Iau, 12 Hydref 2017

Amser: 09.04 - 15.11


WRB(12)

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Bwrdd:

Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd)

Ronnie Alexander

Trevor Reaney

Michael Redhouse

Y Fonesig Jane Roberts

Swyddogion:

Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol

Matthew Richards, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Rebecca Hardwicke, Head of Members' Business Support

Carys Rees, Members' HR Business Partner

Martin Jennings, Research Team Leader

Donna Davies, Head of Pensions

Staff y Pwyllgor:

Lleu Williams (Clerc)

Sian Giddins (Dirprwy Glerc)

Tystion:

Yr Athro Laura McAllister, Chair of the Expert Panel on Assembly Electoral Reform

Helen Finlayson, Ysgrifenyddiaeth, Clerk to the Expert Panel on Assembly Electoral Reform

 

<AI1>

1         Cyflwyniad y Cadeirydd

1.1.    Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2.    Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 a 12 Gorffennaf 2017.

1.3.    Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2019.

1.4.    Nododd y Bwrdd:

-          y gwaith a gyflawnwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru i gasglu data ar gyfer yr ymchwil i'r hyn sy'n rhwystro pobl rhag sefyll i gael eu hethol i'r Cynulliad, a'r hyn a fyddai'n eu cymell i wneud hynny; a'r

-          wybodaeth ddiweddaraf am brisiad y terfyn uchaf ar gostau'r cyflogwr, a'r lwfans blynyddol ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau.

1.5.    Trafododd y Bwrdd y cynigion ar gyfer ei feicrowefan annibynnol ei hun, a chytunodd arnynt, yn amodol ar rai mân newidiadau. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r feicrowefan yn rheolaidd yn unol â'i strategaeth ymgysylltu ehangach.

1.6.    Trafododd y Bwrdd yr effaith wrth i Aelod adael grŵp gwleidyddol, gan ailddatgan y penderfyniad a wnaeth ar 24 Mai 2017 y bydd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn cael ei dyrannu i Aelodau annibynnol.

1.7.    Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at bob Aelod nad yw wedi gweithredu'r camau diogelwch a nodwyd yn dilyn yr adolygiad o'i swyddfa / swyddfeydd, i annog yr Aelodau i sicrhau bod y gwaith perthnasol yn cael ei gwblhau. Ar yr un pwnc, cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at yr Aelodau i gyd yn gofyn iddynt sicrhau y cynhelir yr archwiliadau diogelwch perthnasol ar yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio yn eu swyddfeydd.

1.8.    Trafododd y Bwrdd y goblygiadau ariannol os oes gan Aelodau fwy nag un swyddfa, a chytunodd i ystyried y mater hwn yn y dyfodol.

1.9.    Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym maes dileu swyddi, a chytunodd i drafod yn y dyfodol y trefniadau pan fo swyddi'n cael eu dileu wrth ailstrwythuro swyddfeydd.

1.10.     Trafododd y Bwrdd oblygiadau'r trefniadau ariannu newydd arfaethedig ar gyfer system gweithiwr achos i'r Aelodau, a chytunodd i ailedrych ar y mater wrth adolygu'r lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19.

Camau gweithredu:

Y Bwrdd i:

-     ysgrifennu at Aelodau nad ydynt wedi gweithredu'r camau a nodwyd yn ystod adolygiad diogelwch eu swyddfa;

-     ysgrifennu at yr Aelodau i gyd i sicrhau y cynhelir yr archwiliad diogelwch perthnasol ar gyfer unrhyw wirfoddolwyr yn eu swyddfeydd; ac

-     ailedrych ar y materion a nodwyd uchod ar ddyddiadau perthnasol.

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 a 12 Gorffennaf.

</AI1>

<AI2>

2         Eitem i'w thrafod: Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Lwfans Blynyddol

2.1.Nododd y Bwrdd oblygiadau'r Lwfans Blynyddol sy'n lleihau'n raddol ar y lefel y tâl a geir.

2.2.Dywedodd Donna Davies, Pennaeth Pensiynau yn y Cynulliad, wrth y Bwrdd fod Ieuan Wyn Jones (cyn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru) wedi'i enwebu i fod yn un o gynrychiolwyr yr Aelodau ar y Bwrdd Pensiynau, yn lle Gareth Jones (cyn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru). Cymeradwyodd y Bwrdd yr enwebiad.

</AI2>

<AI3>

3         Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cytuno ar bapur cwmpasu ar gyfer yr adolygiad o strwythur gyrfa a thelerau ac amodau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.

3.1.Trafododd y Bwrdd y papur cwmpasu ar gyfer yr adolygiad.

3.2.Er mwyn cyfrannu at y drafodaeth, rhannodd aelodau'r Bwrdd y themâu allweddol a gododd yn eu trafodaethau â staff cymorth sy'n gweithio mewn swyddfeydd etholaeth a swyddfeydd rhanbarthol, ac â Grwpiau Cynrychioli Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.

3.3.Cytunodd y Bwrdd:

-     ar gylch gorchwyl yr adolygiad, yn amodol rai mân newidiadau;

-     i ailenwi'r adolygiad yn 'Adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau';

-     ar strwythur a dull gweithredu'r adolygiad, a'r amserlen a ragwelir ar ei gyfer; ac

-     y gall fod angen ailedrych ar rai o argymhellion yr adolygiad wrth baratoi'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, i adlewyrchu unrhyw ddiwygiadau posibl i'r Cynulliad. 

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cam nesaf y gwaith casglu data, er mwyn cyfrannu at yr adolygiad.

</AI3>

<AI4>

4         Eitem i'w thrafod: Cyfarfod Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad.

4.1.Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad, a Helen Finlayson, Clerc y Panel, i'r cyfarfod.

4.2.Rhoddodd yr Athro McAllister ddisgrifiad o waith y Panel, a allai fod yn berthnasol i Benderfyniad y Bwrdd ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Cam gweithredu:

Y Bwrdd i drafod goblygiadau adroddiad y Panel ac unrhyw gynigion deddfwriaethol y gallai'r Comisiwn eu cyflwyno, o safbwynt blaenraglen waith y Bwrdd.

</AI4>

<AI5>

5         Eitem i'w thrafod: Y broses ar gyfer treuliau a lwfans Aelodau'r Cynulliad: Y broses hawliadau, apeliadau ac achosion busnes

5.1  Trafododd y Bwrdd y prosesau ar gyfer treuliau a lwfans Aelodau'r Cynulliad, a chytunodd arnynt.

</AI5>

<AI6>

6         Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Arolwg ynglŷn ag effeithiolrwydd y Penderfyniad: Adroddiad

6.1.Trafododd y Bwrdd yr adroddiad ar ganlyniadau ei arolwg diweddar i ba mor effeithiol yw'r Penderfyniad, a chytunodd i gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017-2018.

6.2.Cytunodd y Bwrdd hefyd i gyhoeddi detholiad perthnasol o'r canlyniadau pan fo'n briodol, fel tystiolaeth ar gyfer unrhyw argymhellion y gall fod yn dymuno'u rhoi ar waith yn rhan o'i raglen waith ehangach.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r canlyniadau i'r Bwrdd eu trafod mewn pryd cyn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ym mis Gorffennaf.

</AI6>

<AI7>

7         Papur(au) i'w nodi

7.1. Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth gan yr Arglwydd Bew, Cadeirydd y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>